Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Bae Caerdydd
 Caerdydd

14 Rhagfyr 2016

 

Annwyl gyfaill

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedauwedi cytuno i ymgymryd ag ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn ymchwiliad byr Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Pedwerydd Cynulliad i Ddyfodol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, ac mae hefyd wedi’i lywio gan ymgynghoriad y Pwyllgor ar flaenoriaethau a gynhaliwyd yn ystod haf 2016.

Cylch gorchwyl

Er mwyn ein cynorthwyo gyda’n gwaith byddem yn croesawu eich barn ar unrhyw rai, neu bob un o’r pwyntiau hyn:

-        yr effaith ar y modd yr amddiffynnir hawliau dynol yng Nghymru wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd,

-        effaith cynnig Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 a chyflwyno Deddf Hawliau Prydeinig i gymryd ei le, a

-        chanfyddiadau'r cyhoedd ynglŷn â hawliau dynol yng Nghymru, yn arbennig pa mor ddealladwy a pherthnasol ydynt i bobl Cymru.


 

Anfonwch eich barn i: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru erbyn dydd Gwener 10 Chwefror 2017.

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i gyfrannu at yr ymgynghoriad a manylion am bolisi’r cynulliad at ddatgelu gwybodaeth ar dudalennau gwe’r Cynulliad: www.cynulliad.cymru/ymgynghoriadau

Yn gywir,

John Griffiths AC

Cadeirydd